Y Motobeic a’r Seidcar!

Wedi bod wrthi yr wythnos yma’n adeiladu’r Seidcar yn 3D – dyma sut mae’n edrych fel ar y funud.

Y Motobeic a’r Seidcar

Model 3D o’r Seidcar

I’ve been busy this week building the Sidecar in 3D – here’s a quick screen grab of the progress so far.

Mae’r gwaith mawr yn dechrau!

Mae’r gwaith mawr o creu pecyn i S4C wedi dechrau. Dwi’n gorfod amlinellu bob dim sy’n ymwneud a’r Anturiaethau newydd – o darluniau o’r cymeriadau a’r set, i ychydig o’r plots genym mewn golwg. Dwi’n hapus i rannu fod Mici Plwm wrth ar y funud yn ysgrifennu’r plot cynta, yn barod i’r pecyn epic. Dwi di bod yn neud ychydig o luniau yma ac acw, i drio gweithio ychydig o broblemau allan, a meddwl rhannu ychydig ohonynt yma:

Planio y Poster

Doodles

Hefyd, er mwyn ysbrydoliaeth, dwi di bod yn edrych ar yr hên gylchgronnau ‘Sboncyn’ a ‘Penbwl’ – diolch yn fawr i’r Llyfrgell yn Gaernarfon am gael gafael i drost gant o’r cylchgronnau hên, a gadael imi neud copiau o bob un paneli Syr Wynff a Plwmsan!

Sboncyn

Work has now started on creating a ‘pack’ for the S4C to outline everything about the show, from the characters to sets, and a few of the story lines. I’m happy to report that Mici Plwm is currently penning the first script, and I cannot wait to read it! I’ve been sketching a few doodles here and here, trying to figure a few things out, and I thought I might share them with everyone.

Also, thanks to the Library in Caernarfon, I’ve photocopied about 100 different sketches of Syr Wynff a Plwmsan that appeared in the Welsh children’s comics, ‘Sboncyn’ and ‘Penbwl”

Syr Wynff a Plwmsan

Er mwyn delweddu’r ddau’n well – mi gydosodes i’r wefan hon, gydag ychydig o wybodaeth am bob darn i chi:

Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

Uchod, gweler poster pryfoclyd i’r Anturiaethau. Dyma yw’r steil gorffenedig i’r cymeriadau. Dwi wedi modelu, a creu Syr Wynff a Plwmsan (SWaP) yn 3D yn fy amser sbâr, gyda mewnbwn gan Wynford Ellis Owen a Mici Plwm. Dwi wedi gallu creu fersiwn 3D agos iawn i’r gwreiddiol ac fel roedd Syr Wynff a Plwmsan yn edrych. Drwy edrych ar y penawdau, hen luniau o’r ddau, cylchgronau (megis Penbwl/Sbondonics) oedd yn cynnwys stribynnau o SWaP, yn ogystal â darluniau fy hun, dwi wedi gallu creu fersiwn o’r cymeriadau sydd ag apêl fodern, ac sydd yn gweithio’n dda hefo’i gilydd – ond sydd dal yn adnabyddus iawn i ni fel yr arwyr ‘rydym i gyd mor gyfarwydd â hwy.

Isod, gweler clip, wedi ei animeiddio drwy ddefnyddio’r modeli uchod, o Syr Wynff yn cyfarch y gynulleidfa. Nid yw’r darn wedi ei orffenedig eto – ond mae’n dangos potensial byd Syr Wynff a Plwmsan fel cartŵn:

Cyfrinair: swapprawf

Rwyf hefyd wedi adeiladu ychydig o setiau gwreiddiol byd Syr Wynff a Plwmsan yn 3D, fel blaen tŷ’r ddau, a stryd Syr Wynff (llun isod). Dwi wedi trio cadw mor agos i’r set wreiddiol er mwyn cadw’n driw i fyd Syr Wynff a Plwmsan. Dwi’n rhagweld dechrau’r penawdau yma – yn union fel y penawdau cynnar o’r Anturiaethau gwreiddiol.

Set 3D - Blaen tŷ Syr Wynff a Plwmsan

Isod, dyma’r Gegin (gwaith ar law) – dwi’n ei chanol hi o safbwynt adeiladu. Drwy edrych ar y penawdau gwreiddiol, rydw i wedi gallu ail greu’r Gegin mewn 3D. Dim ond dwy set fydd yn yr olygfa hon – bydd rhan fwyaf o’r penawdau yn digwydd y tu allan yn yr awyr agored, ond teimlaf bod y set yn werth ei gweld oherwydd bod y potensial yno imi weithio hefo’r ddau gymeriad mewn unrhyw leoliad – a bydd yn hawdd iawn i mi adeiladu unrhyw set er mwyn ffurfio pennawd newydd.

Set 3D - Y Cegin (Gwaith mewn llaw)

Fi sy’n gyfrifol am yr holl waith uchod. O fodelu, i animeiddio, i oleuo’r golygfeydd a cyfansawddi’r gwahanol haenau yn y poster i wneud un llun gorffenedig. © Iestyn Roberts 2011

ZBrush Sculpt

Dwi di bod yn chware hefo ZBrush trwy’r dydd yn dod ‘i nabod y meddalwedd. Dwi’n hooked. Mae’r thing yn pretty awesome. Dwi wedi adio ychydig o fanylion i ddillad Syr Wynff, dwy adio plygiau yn lle mae’r dilledyn yn cael i wasgu – yn y penelin er enghraifft, ag adio ychydig yn lle mae’r dilledyn yn cael i dynnu – drawst ei asennau.

Dwi wrthi’n gweithio ar poster teaser i’r Anturiaethau. Fydd gennai newyddion gyffrous i’w rannu Dydd Llun.

Dillad Syr Wynff

I downloaded myself a free trial of ZBrush yesterday, and spend the whole day trying to get my head around it (so different to Maya!). I’m hooked on the pretty awesome piece of software. I’ve gone in and added a few details here and there to Syr Wynff’s coat and trousers, by adding creases where the material bunshes up, around the elbow for instance, and added folds where the material is being pulled tight – such as across his ribs.

I’m currently working on a Teaser Poser – details of which, I’ll share on Monday, as I’ve got some exciting news! Boom yeah.

Digital Painting

Dwi heb gael llawer o amser i fi fy hun yn ddiweddar, wedi bod yn brysur hefo gwaith – ond mi gefais ychydig o oriau i weithio ychydig mwy ar y llun o’r olygfa o Wynff yn dringo’r anghenfil. Dyma cip olwg o’r olygfa:

Yr Anghenfil!

I haven’t had much spare time latley, as I’ve been quite busy with work, but I had a couple of hours free the other day to spend on the scene, here’s a quick update of how it currently looks!

Chydig o luniau

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, daeth Mici Plwm draw i fy nhŷ gyda chasgliadau o bethau Syr Wynff a Plwmsan imi. O benawdau SWaP i lluniau wedi cael i fframio, y crys-t SWaP mae Plwmsan yn ei wisgo, a bwndel o luniau gafodd i’w thynnu pam roeddynt yn ffilmio’r bennod arbennig ‘Syr Wynff a Plwmsan yn ymweld â’r Universal Studios’.

Er mwyn fy helpu i drio cadw’r modeli 3D mor agos a fedrai i sut roedd y ddau yn edrych fel – mi dwi wedi bod yn defnyddio’r lluniau fel cyfeiriad – i gyd roedd ‘na tua 100 o luniau, dyma esiampl fach i bawb cael gweld.

SWaP yn Universal Studios

Mi fyddai’n postio ychydig mwy o luniau fel hyn, yn dangos memorabilia sydd gennai a ballu!

Some Pictures

A few years back, Mici Plwm came over to my house to drop off a few things, Syr Wynff a Plwmsan related. From tapes after tapes of the episodes, framed pictures, a replica of Plwmsan’s t-shirt, and a bundle of 100+ images taken during the filming of the ‘Syr Wynff a Plwmsan at Universal Studios’ episode.

To try and keep my models looking as the real Syr Wynff and Plwmsan do, I’ve used these images extensively – they’ve been a massive help. I thought I’d post here a handful for everyone to see. I have many, many more that I’ll be posting as time goes on – also a few memorabilia!

Y Gegin – Set Work in Progress

Wedi treulio heddiw yn adeiladu’r Gegin, lle mae Syr Wynff a Plwmsan fel arfer yn cael ei brecwast bob bore. Dwi wedi dod ar draws clip sydd yn gweithio’n wych – a dwi am ‘i animeiddio’r sgetsh nesaf yma, yn y gegin. Hyd yn hyn, dyna screenshot allan o Maya o’r set.

Cegin - Work in Progress

Mi dwi di bod yn sganio drwy’r penawdau, yn trio cael cip olwg o beth sydd yn lle, a sut fath o gegin gin y ddau, ac wrth ddefnyddio’r screen shots, mi dwi di trio modelu’r gegin 100% ‘run fath a’r un SWaP. Dwi’n meddwl bysa adeiladu cegin newydd, modern, yn colli ‘i apêl – felly, dwi di trio cadw’r set yr un peth a’r un gwreiddiol. Hefyd – dwi’n tybio bydd o’n edrych yn fyw ‘Gymreig’ cael cegin hen fel hyn. Dyma’r screenshots dwi di bod yn ‘i ddefnyddio:

Cyfeirnod Cegin

A dyma shot agos o’r gornel:

Y Cegin - close up

Kitchen – Set, Work in Progress

I’ve spent the day modeling the Kitchen, in which Syr Wynff and Plwmsan usually have their breakfast every morning. I’ve found a clip which works very well, which I shall animate as the next sketch. Above you can see the screen shot of the process so far.

I’ve been going through the episode, capturing the scenes in which they’re at the kitchen, and using the shots as reference to built the set in 3d, by doing this, I hope to capture the set as it was, 100% on the Anturiaethau. I feel that by building a new, modern kitchen, it’ll lose it’s appeal and charm – plus, by having a small, dated kitchen, it’ll feel a bit more ‘Welsh’ than going through the modern, unappealing (especially for an animated version, as appeal is the key!) stainless, no character kitchen.

There’s an image above of the reference I used, also a close up on the set.

Plwmsan – fersiwn newydd!

Ar ol wyth fersiwn wahannol o Plwmsan, mi dwi or diwedd, ar fersiwn rhif naw, yn eitha hapus hefo model 3d newydd.

Plwmsan y Twmffat Twp

Dwi angen llnau i fwshdash o ychydig, ag ‘i drowsus, ond dwi’n tybio fod o’n gweithio lot gwell na’r fersiynau hen. Dwi’n meddwl hefyd fod y ddau hefo’i gilydd yn edyrch llawer iawn gwell rwan:

Syr Wynff a Plwmsan 3D

Ideal, os gan rhiwyn ychydig o adborth – please fire away! Fel arall, dwi am ddechra’n ol ar yr animation!

Plwmsan – a new version!

After 8 previous versions of Plwmsan, I’ve finally, on version 9, created a version that I’m quite happy with. I have some work cleaning up the mustache and trousers, but on a whole, I think it works much better than the previous eight versions. Both Syr Wynff and Plwmsan now work quite well together I think, they complement each other a wee bit more.

If anyone’s got some feedback on how they’re looking, please feel free to comment – otherwise, I shall get back to the animation!